Ysgrifennaf atoch mewn ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ynglŷn a'i flaenoriaethau ar gyfer y Pumed Cynulliad. A ninnau'n brifysgol ymchwil flaenllaw gyda IIawer o arbenigedd ac adnoddau yn y meysydd a gaiff eu hystyried gan eich Pwyllgor yn 61 pob tebyg, mae Prifysgol Caerdydd mewn sefyllfa gref i gyfrannu at drafodaethau eich Pwyllgor, a byddem yn falch iawn o wneud hynny. Byddem yn croesawu'r cyfle i gael manylion eich rhaglen waith oherwydd byddai hynny'n ein galluogi i ni amlygu arbenigwyr posibl a allai helpu.

Er enghraifft, mae'r Ysgol Newyddiaduraeth, Diwylliant ac Astudiaethau'r Cyfryngau yn sefydliad uchel iawn ei barch o safbwynt yr addysgu a'r ymchwil a ddarperir ganddi ym myd y cyfryngau. Mae hyn yn ein helpu i Iywio'r agenda ymchwil ym meysydd y cyfryngau rhyngwladol, newyddiaduraeth a chyfathrebu, ac mae'r IIywodraeth ac asiantaethau eraill yn aml yn manteisio ar ein harbenigedd mewn dadansoddi'r cyfryngau a diwylliant.

Hoffwn hefyd fanteisio ar y cyfle hwn i wahodd eich Pwyllgor i ymweld a'r Brifysgol i weld y gwaith yr ydym yn ei wneud ym maes diwylliant, y Gymraeg a chyfathrebu. Er enghraifft, mae ein rhaglen Cymraeg i Bawb yn rhoi'r cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Caerdydd ddysgu Cymraeg ochr yn ochr a'u hastudiaethau, beth bynnag yw'r rheiny. Gyda Iwc, byddai ymweliad o'r fath o ddefnydd i'ch Pwyllgor wrth i chi lunio eich cynllun gwaith ar gyfer y Pumed Cynulliad.